Bydd llawer o fusnesau’n wynebu’r sefyllfa anffodus o orfod dileu swyddi gweithwyr.
 
MAE GYRFA CYMRU’N CYNNIG GWASANAETH CWNSELA
PROFFESIYNOL YN RHAD AC AM DDIM I WEITHWYR SYDD AR
FIN COLLI EU SWYDDI.
 
Bydd Cynghorwyr â chymwysterau proffesiynol yn cynnig cyngor ar gynllunio gyrfa
yn y dyfodol, ailhyfforddi a sgiliau chwilio am swydd. Hefyd, gallan nhw gynnig
cyngor a chymorth â:
  • Chreu CV
  • Llenwi Ffurflenni Cais
  • Ffynonellau arian posib ar gyfer ailhyfforddi – gan gynnwys cronfa ReAct
  • Gwybodaeth am y Farchnad Waith
 
Gall darparu’r gwasanaeth yma’ch helpu chi, fel cyflogwr, mewn sawl
ffordd.
  • Yr amhariad lleiaf posib a chyn lleied o amser â phosib pan na fydd unrhyw waith yn cael ei wneud, gan fod modd cyflenwi’r gwasanaeth yn y gweithle
  • Ar gael i’r gweithlu ar bob lefel, gan gynnwys rheolwyr
  • Mae’n llyfnhau’r trawsnewid trwy helpu’ch gweithlu i ganolbwyntio ar y dyfodol
 
MAE’R GWASANAETH YMA WEDI HELPU 6,000 O WEITHWYR
LEDLED CYMRU I WYNEBU COLLI EU SWYDDI.