Cysylltiadau Addysg Busnes
Mae gan bob cwmni, o ba bynnag sector, y potensial i helpu pobl ifanc.
Ydych chi am i’ch sefydliad gael effaith bositif ar y gymuned, cyfrannu’n bositif ati a
chyflwyno pobl ifanc i heriau byd gwaith?
Nod Partneriaethau Addysg Busnes yw datblygu cysylltiadau rhwng ysgolion, disgyblion a
chyflogwyr. Bydd pobl ifanc o bob oed yn dysgu orau trwy brofiad uniongyrchol a byddan
nhw’n ymateb yn bositif iawn i ‘bobl go iawn’ o’r byd busnes. Heb gefnogaeth gref cyflogwyr,
ni fyddai gweithgareddau busnes/addysg yn bosib.
Mae’r buddiannau i’ch cwmni yn eang, gan gynnwys:
-
Gwneud cyfraniad gweledol i’r gymuned leol
-
Datblygu cysylltiadau ag ysgolion a cholegau lleol
-
Nodi gweithwyr posib y dyfodol
Gallwch gymryd rhan fel cyflogwr mewn sawl ffordd trwy gynnig:
-
Profiad Gwaith – Mae hwn yn weithgaredd allweddol wrth helpu pobl ifanc i ddeall ac i ddatblygu’r
sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar gyflogwyr. Mae miloedd o bobl ifanc yn ein hardal yn cael
eu lleoli gyda chyflogwyr am gyfnodau byr neu hir o brofiad gwaith bob blwyddyn.
-
Ffug-gyfweliadau – Gall ymarfer cyfweliad gyda chyflogwr fod yn hwb aruthrol i hyder unigolyn ifanc.
-
Datblygu neu wella adnoddau a gweithgareddau’r cwricwlwm – Yn aml gall busnesau fod yn ffynonellau cyfoethog o ddeunyddiau i gefnogi addysgu yn yr ystafell ddosbarth, a helpu mewn sawl ffordd arall.
-
Mentora myfyriwr – Gall mentor mewn ysgol gyfrannu at gynnydd unrhyw un ifanc wrth ddatblygu sgiliau, p’un a ydyn nhw’n sgiliau academaidd, yn sgiliau cymdeithasol neu’n sgiliau personol.
-
Sefydlu a barnu heriau menter a busnes – Bydd myfyrwyr yn cael cymhelliant mawr trwy weithio ar broblemau busnes go iawn sy’n annog gwaith tîm a sgiliau cyflwyno ac yn cyfrannu at eu dealltwriaeth o fenter.
-
Croesawu ymweliadau â’r gweithle – Gellir cysylltu’r rhain â chynllunio gyrfa neu gyrsiau astudio penodol.
Sut i Gymryd Rhan:
Cysylltwch â’ch Canolfan Gyrfa leol ar Radffon: 0800 183 0283