Pobl yw ased pwysicaf unrhyw fusnes; mae gan bob un ohonyn nhw gyfraniad
arbennig i’w wneud i’r gwaith o redeg cwmni yn llwyddiannus. Trwy ganolbwyntio
ar anghenion gweithwyr unigol gallwch sicrhau eu bod yn gwneud eu gorau glas i
wneud eich busnes yn effeithiol drwyddo draw. Ond sut fyddwch chi’n asesu’r
sgiliau sy’n bodoli ac yn diwallu anghenion hyfforddi a datblygu?
 
Mae’r ateb gan y Tîm Datblygu’r Gweithlu y mae Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys
yn ei redeg.
 
Gall ein Cynghorwyr proffesiynol helpu trwy ddarparu:
  • Asesiadau gwrthrychol o sgiliau, galluoedd ac anghenion hyfforddi eich gweithwyr
  • Cyngor ar sut y gallwch ddiwallu anghenion hyfforddi eich gweithwyr a datblygu eu sgiliau
  • Gwybodaeth am nawdd a allai fod ar gael i gefnogi costau diwallu anghenion hyfforddi a datblygu gweithwyr
  Mae ein gwasanaeth:
  • Yn gyfrinachol
  • Wedi’i lunio yn benodol – byddwn yn ystyried anghenion gweithwyr unigol cyn llunio cyfarwyddyd addas i’r anghenion hynny
  • Yn cael ei gyflwyno yn y gweithle er mwyn sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl
  • Yn rhad ac am ddim
  Manteision i gyflogwyr:
  • Mae cwmnïau sy’n uwchraddio sgiliau eu gweithlu yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol
  • Mae caniatáu i weithwyr fanteisio ar addysg a hyfforddiant perthnasol yn hybu eu cymhelliant, eu hymwneud a’u syniadau
  • Os byddwch yn annog diwylliant dysg ac yn gwrando ar eich gweithlu, gall hyn arwain at sefydliad mwy iach
 
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Tîm Datblygu’r Gweithlu
Rhadffon: 0800 183 0283