EICH HELPU I LENWI EICH SWYDDI GWAG

Gall Gyrfa Cymru Morgannwg Ganol a Phowys:

  • eich helpu i lenwi’ch swyddi gwag i bobl ifanc rhwng 16 a 19 oed
  • cyfateb gofynion eich swydd i bobl ifanc sy’n edrych am waith
  • arddangos eich swyddi gwag yn ein Canolfannau Gyrfa ac ar ein gwefan
  • trin y gwaith cychwynnol o ddosbarthu’ch ffurflenni cais neu ddarparu ffurflenni cais safonol
  • trefnu ichi gyfweld ymgeiswyr yn ein Canolfannau Gyrfa
  • darparu cyngor a gwybodaeth am recriwtio pobl ifanc ag anghenion arbennig
  • rhoi gwybodaeth ichi am y farchnad waith leol ac am y datblygiadau diweddaraf ym maes addysg/hyfforddiant
  • eich cynghori ynglyn â’r adeg y byddwch yn recriwtio er mwyn sicrhau eich bod yn denu ymgeiswyr addas
  • darparu gwybodaeth ichi am hyfforddiant a datblygiad gweithwyr ifanc.

Ein Safonau ar gyfer Gwasanaethu Swyddi Gwag

  • Bydd cysylltydd yn cael ei enwi i ddelio â chyflogwyr a darparwyr dysgu pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl.
  • Byddwn yn hysbysu darparwyr cyn pen deuddydd o gael gwybod am y swyddi gwag os na fyddwn yn gallu nodi ymgeiswyr addas.
  • Byddwn yn ymdrechu i wasanaethu swyddi gwag yn gyflym. Byddwn yn nodi ac yn hysbysu pobl ifanc addas cyn pen tri diwrnod gwaith o gael gwybod am y swyddi gwag.
  • Byddwn yn gosod manylion swyddi gwag ar ein byrddau arddangos cyn pen tair awr o gael gwybod amdanyn nhw.
  • Byddwn yn cysylltu â chyflogwyr cyn pen pythefnos o osod cleient er mwyn asesu pa mor fodlon ydyn nhw â’n gwasanaethau ac i’w holi ynghylch cynnydd yr unigolyn ifanc.
  • Rydym yn mynd ati i hybu cyfle cyfartal yn y broses o drafod swyddi gwag.

Cysylltwch â’ch Canolfan Gyrfa leol i gael mwy o wybodaeth

Rhadffon: 0800 183 0283