Fel y llynedd, mae cynllun arloesol sy’n dod â chistiau o deganau mewn i ardaloedd lle mae diffyg cyfleusterau chwarae ar gael yn rhedeg yn ystod gwyliau’r haf y flwyddyn yma yn ogystal.
Dyma waith ar y cyd rhwng Carfan Materion Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Gwasanaethau Chwarae a Phlant y Cymoedd a sefydlwyd y flwyddyn ddiwethaf. Darparwyd sesiynau chwarae rhad ac am ddim yn Rhydfelen, Pen-y-graig a Threfelin, sef ardaloedd lle fyddai plant a theuluoedd ddim wedi cael manteisio ar y math o wasanaeth yma fel arall.
Yn ystod 2007, bydd y cynllun yn dod yn ôl i Ben-y-graig a Threfelin, a bydd sesiynau newydd ar gael yn y Graig (y Porth) Tresalem a Thy Newydd (manylion isod).
“Dyma gynllun ardderchog sy’n cynnig gweithgareddau chwarae hwyl yn rhad ac am ddim drwy gydol yr haf.
“Yn ogystal â chynnig gweithgareddau chwarae, nod y cynllun yw rhoi’r gallu i gymunedau a chydweithio â nhw i gael ffordd well o fyw. Mae Cynllun Cutiau Chwarae yn rhoi cyfle i ni i gynyddu ymwybyddiaeth ynglyn â gwaith chwarae a dangos i bobl sut mae modd iddyn nhw i ddod yn rhan o bethau,” meddai’r Cynghorydd Annette Davies, Aelod o’r Cabinet ar Faterion Cydraddoldeb.
Mae cynllun Cutiau Chwarae yn cyfuno sesiynau chwarae mynediad agored â chistiau llawn teganau ac offer chwarae y mae’r plant yn gallu’u defnyddio. Mae’r sesiynau ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed, ac mae gofyn bod oedolyn yn gwmni i blant dan 8 oed. Rhaid bod rhieni’n gyfrifol am blant ar bob adeg.
Yn ystod y cynllun y llynedd, roedd 95 o blant wedi cofrestru mewn tair chymuned. Roedd y plant yn chwarae gemau dwr, adeiladu lleoedd cuddio, yn mwynhau gweithgareddau celf a chrefft a rhoi cynnig ar fedrau syrcas - jyglo, troi platiau, cerdded ar jacoese a beic un olwyn.
Y flwyddyn yma, bydd y sesiynau chwarae yn dechrau ar 30ain Gorffennaf ac yn dod i ben ar 3ydd Medi. Dyma amserlen a lleoliadau’r sesiynau:
Parc Pen-y-graig (Bell vue) – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 10.30 a Chanol Dydd
Mount Pleasant, y Porth – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 1.00 a 2.30
Maes Glas Trefelin – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 10.30 a Chanol Dydd
Maes Glas Tresalem – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1.00 a 2.30
Parc y Graig, Pontypridd – Dydd Llun a dydd Mercher rhwng 10.30 a Chanol Dydd
Maes Chwarae Ty Newydd – Dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1:00 a 2.30
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Garfan Materion Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar 01443 424182