Cynllun Manteisio i’r Eithaf – Sesiynau gyda phanel o arbenigwyr
Mae cynllun Manteisio i’r Eithaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf bellach ar gael yn ardal Glyn-coch. Yn dilyn achlysur cyngor ar faterion trafod arian rhad-ac-am ddim ym mis Ionawr, mae Carfan Materion Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wrthi’n trefnu sesiynau cyngor am ddim yn y gymuned leol. Fe fydd ymgynghorwyr o arbenigwyr o asiantaethau lleol yn eu cynnal nhw. Dyma’r sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun yma:- Canolfan Cyngor ar Bopeth, Undeb Credyd Dragon Savers, Canolfan Byd Gwaith, cwmni Gyrfa Cymru, Coleg Morgannwg, Action 4 Employment, Grwp Gwresogi Fforddiadwy, Interlink, Age Concern, a chynllun Genesis.
Ydy’ch sefyllfa ariannol yn peri pryder i chi? Ydych chi’n ystyried ailgydio ym myd addysg neu hyfforddiant, neu’n ansicr ynglyn â mynd yn ôl i weithio? Oes eisiau cyngor arnoch ynghylch y budd-daliadau, efallai bydd hawl gyda chi iddyn nhw? Ydych chi mewn dyled neu’n ei chael hi’n anodd cael credyd neu fenthyciadau? Os dyma’ch sefyllfa chi, fe fydd ymgynghorwyr ar gael i ateb eich cwestiynau chi ac yn rhoi cymorth ichi fanteisio ar y gwasanaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael.
Hoffech chi neu’ch cylch, gael rhagor o wybodaeth? Ffoniwch Garfan Materion Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar 01443 424182 i drefn y sesiwn gyda’n panel o arbenigwyr. Bydd pob sesiwn yn rhad-ac-am-ddim a byddwn ni’n eu cynnal nhw’n lleol.
Ydych chi’n wynebu problemau di-ri?
Sut galla i gael trefn ar fy miliau?
|
Hoffwn i ailgydio ym myd addysg a hyfforddiant – at bwy alla i droi yn gynta?
|
Sut gallai i ail gydio ym myd gwaith?
|
Sut galla i gynilo arian? Does dim llawer gyda fi yn y lle cyntaf!
|
Dw i eisiau mynd yn ôl i’r coleg ond does neb ar gael i garco’r plant – help!
|
Hoffwn i wirfoddoli a chyfrannu at y gymuned. Sut galla i wneud hynny?
|
Ble galla i gael
benthyciad â
llog isel?
|
Mae diddordeb gyda fi mewn mynychu sesiwn ond dydw i ddim yn rhan o gylch.
|
Dw i wedi cael llond bol ar fy swydd i ac mae ffansi newid arna i.
|
Dw i wedi bod yn chwilio am swydd ers blynyddoedd – ond does yr un wrth fy modd – Help
|
Ffoniwch ni a gadael i ni ddod i’r adwy!
I drefnu sesiwn ar un o’r pynciau uchod ffoniwch Garfan Cyfiawnder Cymdeithasol ar 01443 424182 neu
(Os dydych chi ddim yn rhan o gylch, ffoniwch ni beth bynnag ac fe
geisiwn ni drefnu sesiwn ar eich cyfer)
|
|
|
|
|
|