|
Dwynwen yw nawdd sant cariadon Cymru ac arferai fyw yn y 5ed ganrif. Fe'i hadwaenir hefyd fel Dwyn: Donwen: Donwenna: or Dunwen.
Dyweder fod Dwynwen wedi bod yn un o 24 o blant â fagwyd gan Freninn Cymru, Brychan Brycheiniog.
Adnabyddwyd hi fel person pur, hynod grefyddol a phrydferth a olygai ei bod yn denu sylw llawer o ddynion ifanc.
Yn ôl y sôn, un noson fe gynhaliodd tad Dwynwen wledd ac fe'i mynychwyd gan bawb yn eu dillad gorau lle y bu pawb yn gloddesta a dawnsio drwy gydol y nos.
Yn y wledd, fe ddaliodd prydferthwch Dwynwen sylw Dywysog ifanc o'r enw Maelon Gwynedd. Fe syrthiodd mewn cariad gyda hi yn syth a buan y bu iddo wneud hynny'n glir a chyfleu ei ddymuniad i'w phriodi
Wrth i amser fynd yn ei flaen ac i'r straeon gael eu hadrodd droeon, mae yna nifer fawr o amrywiaethau am yr hyn a ddigwyddodd rhwng Dwynwen a Maelon;
1. Bu i Dwynwen ddatgan ei chariad ond ni allai briodi Maelon oherwydd roedd ei chredoau crefyddol wedi ei hannog i fod yn leian.
2. Gwrthododd Brychan roi ei fendith oherwydd nad oedd yn hoffi Maelon.
3. Gwrthododd Brychan roi ei fendith oherwydd ei fod eisoes wedi trefnu i Dwynwen briodi cariadfab arall.
Oherwydd hyn, mae llawer o ganlyniadau posib wedi eu llunio;
1. Yn dilyn ymwrthodiad tad Dwynwen, mae Maelon yn gofyn i Dwynwen ddianc ag ef i'w lys. Mae Dwynwen yn gwrthod hyn, sy'n cynddeiriogi Maelon sy'n peri iddo adael am byth.
2. Mae rhai dehongliadau o'r stori hwn yn honni fod Maelon wedi'i gynddeiriogi gymaint â dewis Dwynwen i fod yn leian (neu oherwydd ei bod wedi gwrthod Brychan) ei fod wedi ei threisio a'i gadael.
3. Mae fersiynau eraill yn honni fod Maelon yn syml yn gadael wedi iddo sylweddoli na fydd Dwynwen nag ef byth yn priodi.
Daw cysondeb i'r stori pan fo tristwch Dwynwen yn ei hannog i gysuro ei hun yn y goedwig gerllaw. Yno, mae hi'n gweddio i Dduw i'w hymwared o'i theimladau tuag at Maelon. Yn y fersiwn lle mae hi'n cael ei threisio, mae Dwynwen yn gweddio i Dduw i'w helpu i anghofio Maelon.
Atebir ei gweddiau pan fo angel yn ei hymweld ac fe roddir cymysgedd iddi ei yfed i'w helpu i ymwared o'i theimladau neu i wneud iddi anghofio Maelon. Yn anffodus, mae Maelon yn yfed yr un gymysgedd ac yn cael ei droi i rew. Mae yna wahaniaeth mewn barn o ran y stori yma hefyd. Tra bod rhai storiau yn dweud mae ymweliad gwirioneddol oedd hwn, honna eraill fod yr angel wedi ymweld â Dwynwen yn ei breuddwydion. Hefyd, honna rai fod Maelon wedi ei droi'n rew o ganlyniad uniongyrchol i Dwynwen yfed y gymysgedd. Mae hyn yn debygol yn y fersiwn lle honnir i Dwynwen gael ei threisio.
Mae Dwynwen yn cael braw o glywed am anlwc Maelon ac mae hi felly yn gweddio i Dduw eto, sy'n ateb ei gweddiau gan ganiatau iddi dri dymuniad;
1. Y cyntaf oedd i ddadmer Maelon a'i ddod ag ef nôl i fywyd.
2. Yr ail oedd cais i Dduw edrych yn garedig ar obeithion a breuddwydion gwir gariadon. Mae'r rhan helaeth o fersiynau yn honni fod Dwynwen wedi gwneud cais i hwn gael ei wireddu drwyddi hi, fyddai felly yn ei gwneud yn nawdd sant.
3. Ei chais diwethaf oedd nad oedd hi am gael ei huno mewn priodas byth nac ychwaith ddymuno gwneud hynny er mwyn iddi allu aberthu gweddill ei hoes i Dduw. >
Fe ddaeth Dwynwen yn leian wedyn ac fe ymgartrefodd (dywed rhai â'i chwaer, Cain) ar Ynys Llanddwyn, ar arfordir gorllewin Ynys Môn. Yno, bu iddynt sefydlu eglwys neu leiandy, lle dyweder, y bu i nifer o ferched oedd wedi cael eu calonnau wedi eu torri ymuno â hwy.
Bu farw Dwynwen o effeithiau naturiol o amgylch 460AD. Gellir gweld adfeilion yr Eglwys duduraidd, 16eg ganrif yn Llanddwyn o hyd heddiw.
Mae'r eglwys a'r ffynnon gyfagos wedi denu pererindodau gan bobl dros y canrifoedd, yn enwedig gan gariadon ifanc yn edrych am ryw fath o sicrwydd am eu dyfodol â'i gilydd.
Credwyd fod y ffynnon yn ymgartrefu pysgodyn hudolus a chysygredig (neu lysywen) oedd yn rhagweld dyfodol cariadon ifanc drwy ei ymddygiad a'i symudiadau. Gofynnwyd cwestiynau i'r pysgodyn ac fe'i hatebwyd gan y cyfeiriad y symudai. Arferai merched rhoi ar brawf ffyddlondeb eu gwyr drwy wasgaru briwsion yn y dwr ac yna gosod hances boced ar yr wyneb. Credwyd pe byddai'r pysgodyn yn dod at wyneb y dwr y byddai hyn yn brawf o ffyddlondeb eu gwyr.
Mae pobl yn dal i ymweld â'r ffynnon heddiw ac mae ychydig fan-swigod byrlymus ar wyneb y dwr yn ddigon i annog dyfodol hapus i gariadon ifanc.
Daeth Dwynwen hefyd yn adnabyddus fel nawdd sant anifeiliaid sal a'i henw yn cael ei alw arno, pan fo angen, mewn ymgais i wella anifail anafedig.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cynydd wedi bod yn y nifer o bobl sy'n dathlu Dydd Santes Dwynwen drwy anfon cardiau ac anrhegion megis llwyau caru, ar 25ain o Ionawr.
|