Open Access Play - English

OPEN ACCESS PLAY PROVISION a general overview

 
Open Access Play Provision is a service for children first, it is intended to provide an environment where children can explore and extend their own play. The term Open Access means that children are free to come and go, as they want. It is not a childcare service and Playworkers will not be responsible for children once they leave the playscheme. 
 
However, children’s safety and happiness is very important. If a young child wishes to leave before the end of playscheme it should be possible to make arrangements for playworkers to contact parents/carers before they do. In most cases children will choose to stay for the duration of a session and may be reluctant to leave at home time. 
 
You cannot normally pre-book a place at an open access playscheme, places are usually provided on a first come first served basis. It is worth contacting providers to check running times and dates before children attend until families are familiar with the provision on offer. It is also worth checking what age children can attend.
 
Parents or carers will usually be asked to complete an emergency contact form when a child first attends. These details will be kept on record for the duration of the scheme and forms will not need to be completed for each visit.
 
Depending on the policy of the organisation in question, a registration form might ask for information about dietary or medical conditions. Permission to take photographs of play sessions may be asked for as might consent for other activities, such as taking children off-site in order to play out of doors. 
 
At the very least all providers should be recording the name of the child and the name and phone number of a responsible adult to be contacted in the event of an emergency; it is very important that this information is provided and that it is accurate.
 
Providers of open access play provision should offer rich and varied environments in which children can self direct their play. Children should have the opportunity to exercise a range of physical, creative, contemplative and social behaviour. All children should be able to attend and engage in activities that they find stimulating and interesting. 
 
In some cases additional support might be required in order that a particular child can get the most out of their playscheme experience. As far as possible this support should be subtle and have minimum impact on the child’s ability to engage with other children and workers present. It is the responsibility of all playworkers to be inclusive.  
 
This description provides a general over view of Open Access play provision; there will be variations depending on the policies of individual organisations. Most play providers will have a parent /carers handbook, which will give specific information about the service they offer and the policies they are working to. It is worth asking for a copy of this handbook.
 

 
 

Open Access Play - Welsh

Darpariaeth Gweithgareddau Mynediad Chwarae Agored - arolwg cyffredinol

 
Mae Darpariaeth Mynediad Chwarae Agored yn wasanaeth i blant yn bennaf. Ei bwrpas yw darparu amgylchfyd lle mae modd i blant edrych ar eu ffordd o chwarae a’i hestyn. Ystyr Agored yw bod modd i blant ddod a gadael fel maen nhw eisiau. Ni gwasanaeth gofal plant mohono a fydd gweithwyr chwarae ddim yn gyfrifol am y plant unwaith iddyn nhw adael y cynllun chwarae.   
 
Fodd bynnag, mae diogelwch a hapusrwydd y plant yn bwysig iawn. Pe bai plentyn ifanc eisiau gadael cyn diwedd y cynllun chwarae dylai fod modd i weithwyr chwarae gysylltu â’i rieni/cynhalwyr cyn iddo wneud hynny. Yn y mwyafrif o achosion bydd y plant yn dewis aros am y sesiwn llawn ac efallai fyddan nhw ddim eisiau gadael pan fydd hi’n amser mynd adre.  
 
Fel arfer does dim modd cadw lle mewn cynllun chwarae agored ymlaen llaw, y cyntaf i’r felin sy’n cael y lle. Os dydy’r teuluoedd ddim yn gyfarwydd â’r ddarpariaeth sydd ar gael, dylen nhw gysylltu â’r darparwyr er mwyn gwirio’i hamserau a’i dyddiadau cyn i’w plant fynd yno. Doeth fydd gwirio oedrannau’r plant sydd â hawl i fanteisio ar y ddarpariaeth yn ogystal.
 
Fel arfer, bydd rhaid i rieni neu gynhalwyr lenwi ffurflen ‘cyswllt mewn argyfwng’ pan fydd plentyn yn ymuno â’r cynllun. Byddwn ni’n cadw’r manylion yma am hyd y cynllun a fydd dim rhaid llenwi ffurflen ar gyfer pob ymweliad.
 
 Gan ddibynnu ar bolisi'r sefydliad dan sylw, efallai y bydd rhaid rhoi manylion am ofynion arbennig o ran bwyd neu gyflyrau meddygol ar y ffurflen gofrestru. Efallai y byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd cyn inni dynnu lluniau o’r sesiynau chwarae neu drefnu gweithgareddau eraill megis mynd â’ch plentyn oddi ar safle'r cynllun chwarae iddo fe chwarae yn yr awyr agored.  
 
 Dylai pob darparwr nodi enw pob plentyn a rhif ffôn oedolyn i gysylltu ag ef mewn achos o argyfwng. Mae’n bwysig iawn bod yr wybodaeth yma’n cael ei darparu a’i bod hi’n gywir.
 
 Dylai darparwyr chwarae agored gynnig amgylchoedd moethus ac amrywiol lle mae modd i blant reoli’u chwarae eu hunain. Dylai fod gyda’r plant y cyfle i ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol yn gorfforol, yn greadigol, yn feddylgar ac yn gymdeithasol. Dylai pob plentyn gael cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu hysgogi neu sydd o ddiddordeb iddyn nhw. 
 
Mewn rhai achosion bydd angen cymorth ychwanegol ar blentyn, iddo fe fanteisio i’r eithaf ar ei brofiad cynllun chwarae. Dylai’r cymorth yma fod yn gywrain a ddylai hynny ddim amharu ryw lawer ar fedru’r plentyn i gyfathrebu â phlant eraill na’r gweithwyr chwarae sy’n bresennol. Mae’n gyfrifoldeb pob gweithiwr chwarae i chwarae rhan gynhwysol.  
 
Mae’r disgrifiad yma’n rhoi arolwg cyffredinol o’r ddarpariaeth mynediad chwarae agored; bydd y ddarpariaeth yn amrywio gan ddibynnu ar bolisïau’r sefydliad. Bydd llawlyfr i rieni/cynhalwyr gyda’r mwyafrif o ddarparwyr chwarae a fydd yn rhoi gwybodaeth am y gwasanaeth maen nhw ei gynnig a’r polisïau maen nhw’n eu gweithredu. Mae’n syniad da gofyn am weld copi o’r llawlyfr yma.
 
Os oes gyda chi unrhyw bryderon, sylwadau, cwynion neu ganmoliaeth ynglyn â’ch cynllun chwarae lleol ffoniwch:
 
Chris Southern – Swyddog Datblygu Gweithgareddau Chwarae, RhCT – (01443) 744003
Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru – (01443) 848528